20/11/17

Bethan Jenkins AC

Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu

Cynulliad Cenedlaethol Cymru 
Bae Caerdydd 
Caerdydd 
CF99 1NA

 

Annwyl Bethan,

Ysgrifennaf atoch yn rhinwedd eich rôl fel Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Er hwylustod, rwyf wedi cyfieithu’r llythyr i chi allu rhannu ei gynnwys gyda chyd-Aelodau a staff pe dymunwch.

Fe gofiwch i Gadeirydd Mudiad Meithrin, Dr Rhodri Llwyd Morgan a minnau gyflwyno tystiolaeth i’ch pwyllgor parthed strategaeth iaith ‘Cymraeg 2050’ ac amcan Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn sgil eich adroddiad, cyfarfodydd a thrafodaethau parhaus gyda chynrychiolwyr perthnasol Llywodraeth Cymru a’r compact gyda Phlaid Cymru, deallwn fod arian ychwanegol wedi’i neilltuo i Mudiad Meithrin fesul blwyddyn dros gyfnod o ddwy flynedd ariannol. Rydym yn hynod ddiolchgar am hynny ac yn credu y gwnaiff y buddsoddiad wir wahaniaeth wrth i ni ymgyrraedd â’r targed o sefydlu 40 Cylch Meithrin (a Chylch Ti a Fi ynghlwm) newydd erbyn 2021.

Yn gynharach eleni, cyhoeddom ddogfen oedd yn ymateb i’r strategaeth iaith newydd sef ‘#Meithrin Miliwn’. Adnabuom 10 cam ar gyfer gwireddu cyfraniad y blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg (trwy Mudiad Meithrin) i’r nodau cychwynnol o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Y 10 cam yw:

1.    Adolygiad annibynnol ar fyrder o adnoddau Mudiad Meithrin er mwyn gwerthuso'r gefnogaeth angenrheidiol i agor 150 o Gylchoedd Meithrin a Chylchoedd Ti a Fi newydd ynghyd ag ehangu cynllun ‘Cymraeg i Blant’ a chefnogi isadeiledd cefnogaeth Mudiad Meithrin ar gyfer pwyllgorau a staff Cylchoedd Meithrin presennol - mae’r adolygiad bellach ar waith;

2.    Sicrhau mewnbwn i Mudiad Meithrin ynglŷn â dyfodol y CSGA yn genedlaethol ac yn sirol gan amrywio rhai o’r deilliannau (i gynnwys y Blynyddoedd Cynnar) – pwyntiau a godwyd gan Aled Roberts yn ei adolygiad annibynnol ef o’r CSGA;

 

 

 

 

3.    Sicrhau fod unrhyw gynlluniau i agor ysgolion Cymraeg o’r newydd yn cyd-drafod gyda Chylchoedd Meithrin (os ydynt yn bodoli eisoes) i drafod adleoli posibl a (ble nad ydynt yn bodoli) i ddarparu taith ofal ac addysg ddi-rwystr i blant o 2 flwydd i fyny ar safle ysgol;

4.    Parhau i fuddsoddi mewn cynllun hyfforddi a chymhwyso’r gweithlu Blynyddoedd Cynnar cyfrwng Cymraeg (fel ‘Cam wrth Gam’) er mwyn denu dechreuwyr newydd ac adnabod bylchau o fewn y gweithlu;

5.    Buddsoddi mewn gwaith hybu a hyrwyddo gofal ac addysg Gymraeg aml-gyfrwng meddal a chaled gan gydweithio gyda phartneriaid llawr gwlad;

6.    Sicrhau mynediad i Gylchoedd Meithrin i gronfeydd grantiau cyfalaf trwy gynllun ‘Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain’ er mwyn annog Cylchoedd Meithrin i agor lleoliadau safonol newydd (os nad ar safle ysgolion) fel hybiau cymunedol;

7.    Annog cynllun peilot ar gyfer ysgolion sy’n addysgu gan fwyaf yn y Saesneg i bartneru gyda Chylchoedd Meithrin i drochi plant hŷn yn Gymraeg fel rhan o’r continwwm iaith;

8.    Buddsoddi mewn cynllun trochi cenedlaethol gan ddilyn hanfodion cynllun ‘Croesi’r Bont’;

9.    Sicrhau prosesau data cynhwysfawr gyda mynediad at ddata genedigaethau;

10. Peilota gwahanol gynlluniau ar y cyd gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol er mwyn cynnig cefnogaeth i rieni gyflwyno’r Gymraeg neu ddefnyddio’r Gymraeg yn y cartref.

Bydd y buddsoddiad ychwanegol felly’n cael ei ddefnyddio i wireddu dau brif nod sef agor 40 Cylch Meithrin/Ti a Fi o’r newydd (mewn ardaloedd daearyddol newydd i ni) a chyfrannu at gynyddu cyfraddau dilyniant i 90% erbyn 2030. Dylid nodi y byddwn yn canolbwyntio hefyd ar gynnal, cefnogi a chynorthwyo'r rhwydwaith presennol o Gylchoedd Meithrin ac yn cryfhau isadeiledd Mudiad Meithrin o ran y gwasanaethau a’r cyngor sydd ar gael i aelodau (y cylchoedd, meithrinfeydd ayyb).

Ystyriwn ar yr un gwynt fod gweithgaredd ein cynllun hyfforddiant cenedlaethol (‘Cam wrth Gam’) yn elfen allweddol o’r gwaith o sicrhau gweithlu a bod gwaith gyda rhieni a theuluoedd trwy gynllun ‘Cymraeg i Blant’ yn hollbwysig yn y gwaith o hybu, hyrwyddo a chefnogi caffael iaith ar yr aelwyd.

Deallwn y byddwch fel pwyllgor yn craffu ar agweddau o’r gyllideb arfaethedig a theimlais ei bod hi’n bwysig eich bod yn cael clywed am y manylion cyffrous sydd ar y gweill yn sgil y datblygiad hwn.

 

 

 

 

Peidied ag oedi rhag cysylltu os gallaf fod o gymorth.

Yr eiddoch yn gywir,

Dr Gwenllian Lansdown Davies

Prif Weithredwr

Mudiad Meithrin